Llety

Mae gennym dri llety hardd ar eich cyfer, y gellir eu gosod arwahân. Gellir hefyd llogi Ffermdy Dinas ac Ysgubor Gwedd y Glyn gyda'i gilydd, sy’n cysgu hyd at 22 o westeion.

Ysgubor Gwedd y Glyn

Ysgubor Gwedd y Glyn, cysgu hyd at 10 o bobl – ysgubor amaethyddol hynafol,200 mlwydd oed, wedi’i hadnewyddu. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol o gerrig a derw lleol. Mae’r llety helaeth yma wedi ei osod allan yn hardd, wedi’i ddodrefnu’n gain a’i gwblhau i safon uchel iawn

Ffermdy Dinas

Ffermdy Dinas, cysgu hyd at 12 o bobl – ffermdy Cymreig, adeiladwyd gyntaf yn 17eg Ganrif, wedi’i adfer yn brydferth ac yn briodol. Mae iddo gyfoeth o hanes ac adlewyrchir hyn yn yr eiddo sy’n cadw llawer o’r nodweddion gwreiddiol.

Rock House

Rock House – adeiladwyd yn y 1800au – tŷ pâr, gyda dwy ffenestr fae, wedi’i leoli dafliad carreg o’r amwynderau lleol – siopau, garej, tafarndai a bwytai. Wedi ei leoli ar ymyl yr Afon Irfon, mae ganddo fan eistedd yn edrych dros yr afon a’r bryniau pell.

Mae’r cartref hwn, llawn cyfarpar addas, yn darparu llety cyfforddus, hunan ddarpariaeth ar gyfer 6 o bobl. Mae ganddo ystafell fyw fawr, cegin fwyta cynllun agored yn ogystal â storfa ar gyfer beiciau a dillad awyr agored yn yr ystafell aml-bwrpas fawr.

Ansicr pa eiddo i ddewis?

Cysylltwch â ni i gael sgwrs am eich gofynion a byddwn yn eich helpu i ddewis yr eiddo fydd orau i chi!