Mae’r adeilad hwn o’r 19eg ganrif yn cynnwys:
Llawr Gwaelod
- Mynedfa draddodiadol gyda grisiau wedi eu carpedu i’r llawr cyntaf;
- Lolfa hamddenol gyda seddi cyfforddus, teledu, stôf goed a golygfeydd o’r Afon Irfon;
- Cegin wedi’i gyfarparu’n llawn gydag offer gan gynnwys popty trydan gyda hob nwy; peiriant golchi llestri; microdon; tostiwr; rhewgell,oergell;
- Ardal fwyta eang integredig;
- Ystafell aml-bwrpas fawr gyda chyfleusterau ailgylchu a storio ar gyfer beiciau ac offer awyr agored.
Y Llawr Cyntaf
- Grisiau yn arwain at dair ystafell wely ac ystafell ymolchi deuluol;
- Un ystafell wely maint brenin gyda chyfleusterau en-suite;
- Un ystafell wely ddwbl gyda golygfeydd o’r afon;
- Un ystafell wely ddwbl gyda lle tân gwreiddiol a golygfa o’r stryd;
- Ystafell ymolchi deuluol, bath, cawod dros y bath; toiled; basn ymolchi a rheiliau tywel wedi’u cynhesu.
Tu allan
- Ardal patio breifat gyda dodrefn gardd a golygfeydd hyfryd o afonydd a mynyddoedd;
- Parcio ar gael ar y ffordd o flaen yr eiddo neu mae dwy fan parcio gyhoeddus am ddim ar gael o fewn 2 funud ar droed, i’r eiddo.
Cyfleusterau a gwybodaeth ychwanegol
Lluniaeth rhad ac am ddim i’ch croesawu: te, coffi, siwgr, llaeth a theisennau
Cyfleusterau babanod a phlant bach: cadair uchel; cot cwympadwy; pot, sedd toiled a gris fach; cyllyll a llestri plastig; dewis o deganau, llyfrau a DVDs; teganau tu allan
Lliain gwely glan a ffres, tywelion llaw a bath a chadachau sychu llestri
Basged o goed tân sych (gellir prynu mwy am gost resymol gan y perchennog)
Mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
Sychwyr gwallt ym mhob ystafell
Codi’r orsaf reilffordd leol ar gais
Haearn smwddio a bwrdd smwddio
Cydnabyddiaeth i Rock House
Cawsom arhosiad bendigedig yn Rock House. Daeth y gwesteiwr heibio i roi gwybod i ni am yr holl ddigwyddiadau lleol a gwnaeth i ni deimlo’n gartrefol iawn. Mae’r tŷ yn hyfryd, ac roedd yn bleser o’r mwyaf cael eistedd yn y cefn wrth yr afon pan oedd yr haul yn tywynnu. Mae’r dref fechan yn wych hefyd: cymuned hyfryd iawn gyda llawer yn digwydd. Buom yn y dafarn leol ar y sgwâr a chael cinio penigamp. Mae’r siop leol hefyd ond ychydig funudau o i ffwrdd ar droed. Ni allaf ei argymell ddigon!
Popeth y dymunwch ar gyfer gwyliau / seibiant byr. Lleoliad gwych ar gyfer archwilio’r ardal a llety eang iawn. Roeddem yn deulu dair cenhedlaeth (a chi bach!) ac roedd mwy na digon o le i bob un ohonom yn y tŷ a chyfarpar da. Roeddem wrth ein bodd a byddwn yn ôl yn y dyfodol! Roeddem yn arbennig o hoff o olygfeydd yr afon wrth eistedd yn y cwrt yn llygad yr haul.
Cawsom wyliau gwych dros y Flwyddyn Newydd yn Rock House. Roedd y bwthyn yn berffaith i’n grŵp, roedd y stof llosgi coed yn hyfryd gyda’r nos ac roedd y lleoliad yn gyfleus iawn ar gyfer dewis helaeth o lwybrau cerdded ac roedd y dafarn rownd y gornel yn fendigedig.
Tŷ hyfryd, cyfforddus iawn ac mewn lleoliad da ar gyfer archwilio’r ardal. Roedd y tywydd yn fendigedig pan arhoson ni ond byddai hwn yn lleoliad hyfryd ar gyfer diwrnod gwlyb a gwyntog i swatio ar y soffa gyfforddus a darllen llyfr wrth ymyl tanllwyth o dân ! Cyfathrebu gwych gyda’r gwesteiwr.
Roedd Rock House yn gynnes, yn glyd, yn lân ac yn gyfforddus iawn ar gyfer ein arhosiad teuluol yn yr hydref. Roedd y tŷ yn teimlo’n gartrefol ac roedd ganddo gyfarpar da iawn. Mae wedi’i leoli mewn pentref ag adnoddau da ar gyfer amwynderau ac yn eithaf canolog i’r llwybrau cerdded a argymhellir yn yr ardal. Mae’r gwesteiwr yn hynod o gymwynasgar ac ymatebol. Rydyn ni’n bwriadu dod yn ôl!
Tŷ mawr hyfryd, gwesteiwr hyfryd, canolog iawn ar gyfer golygfeydd, cerdded ac ati.
Mae Rock House yng nghanol y dref yn agos at siopau a thafarndai. Mae’n fawr, wedi’i addurno’n feddylgar ac wedi’i ddodrefnu a’i gyfarparu’n dda. Cawsom benwythnos hir hyfryd yno gyda theithiau i Fannau Brycheiniog a Chwm Elan. Mae’r gwesteiwr yn gymwynasgar iawn. Rwy’n argymell y tŷ fel lle gwych i aros i archwilio’r ardal hon.